Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bob Ddydd Mercher o'r 11eg o Fehefin - 2il o Orffennaf,
6-8pm yn Adeilad y Celfyddydau, Bangor.
Mae’r cwrs byr hwn yn addas i bob aelod o’r gymuned, darpar fyfyrwyr a chadetiaid plismona.
Mae’r cwrs byr hwn yn cynnig archwiliad manwl o blismona proffesiynol, gan olrhain ei wreiddiau hanesyddol, sylfeini damcaniaethol, a chymwysiadau ymarferol ym maes plismona modern. Mae’r cwrs yn dechrau gyda throsolwg hanesyddol o blismona, gan archwilio ei esblygiad o’r creu cynnar gan egwyddorion plismona Syr Robert Peel, i strategaethau plismona cyfoes. Bydd cyfranogwyr yn dadansoddi sut mae digwyddiadau hanesyddol wedi llunio arferion plismona modern. Nesaf, mae’r cwrs yn pwysleisio plismona cymunedol, gan amlygu ei bwysigrwydd o ran atal trosedd, ymddiriedaeth y cyhoedd, a phlismona a yrrir gan bartneriaeth.
Trwy drafodaethau ynghylch plismona sy'n canolbwyntio ar broblemau, ymgysylltiad cymdogaeth, a heriau moesegol, bydd cyfranogwyr yn ennill mewnwelediadau i feithrin cymunedau mwy diogel a gwydn. Byddwn wedyn yn ymchwilio i wyddoniaeth trosedd, sef dull ar sail tystiolaeth o ddeall ac atal trosedd. Mae’r adran hon yn cyflwyno technegau ymchwilio a ddefnyddir i ddadansoddi ymddygiad a phatrymau troseddol. Yn olaf, mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ymchwilio i lofruddiaeth, lle bydd myfyrwyr yn archwilio astudiaeth achos yn y byd go iawn a rôl unedau ymchwilio. Byddwn yn ymdrin ag elfennau hanfodol megis rheoli lleoliad trosedd, proffilio unigolion dan amheuaeth, a'r broses farnwrol o'r ymchwiliad i'r erlyniad.
Mae’r cwrs byr hwn yn ddelfrydol i weithwyr proffesiynol gorfodi’r gyfraith, myfyrwyr plismona a throseddeg, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall cymhlethdodau plismona modern.
Wythnos 1:
Cyflwyniad i'r sesiynau.
Esblygiad plismona, o'i sylfeini cynnar i blismona modern. Byddwn yn archwilio cerrig milltir hanesyddol, gan gynnwys ffurfio systemau gwylio cynnar, sefydlu’r heddlu proffesiynol cyntaf gan Syr Robert Peel yn 1829, a datblygu modelau plismona modern. Mae themâu allweddol yn cynnwys y newid o blismona adweithiol i blismona rhagweithiol, effaith newidiadau cymdeithasol ar yr heddlu, a'r heriau parhaus o ran cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd.
Wythnos 2:
Mae’r sesiwn hon yn archwilio egwyddorion ac arferion plismona cymunedol, sef dull rhagweithiol sy’n meithrin cydweithio rhwng yr heddlu a’r cyhoedd i atal trosedd a gwella diogelwch. Byddwn yn archwilio strategaethau allweddol megis plismona sy'n canolbwyntio ar broblemau, plismona cymdogaethol, a mentrau a yrrir gan bartneriaeth sy'n hyrwyddo ymddiriedaeth, tryloywder, a chyfrifoldeb a rennir ym maes atal troseddau.
Wythnos 3:
Mae'r triongl trosedd yn fodel droseddegol a ddefnyddir i ddeall a dadansoddi patrymau trosedd. Mae'n seiliedig ar y Ddamcaniaeth Gweithgaredd Rheolaidd, sy'n awgrymu bod trosedd yn digwydd pan fydd tair elfen hanfodol yn cydgyfarfod trwy'r troseddwr cymhellol, targed addas/dioddefwr a diffyg gwarcheidwaeth alluog. Mae Plismona ar Sail Tystiolaeth yn ddull strategol lle mae arferion plismona’n cael eu harwain gan ymchwil wyddonol, dadansoddi data, a thystiolaeth empirig, yn hytrach na thraddodiad neu reddf. Mae egwyddorion allweddol yn cynnwys defnyddio Ymchwil a Data, profi beth sy'n gweithio, a gweithio'n barhaus.
Wythnos 4:
Mae'r sesiwn hon yn rhoi trosolwg strwythuredig o ymchwiliadau i lofruddiaeth, gan gwmpasu'r camau hanfodol; o'r ymateb cychwynnol, i leoliad y drosedd, i sicrhau euogfarn. Bydd cyfranogwyr yn archwilio prosesau ymchwilio allweddol, gan gynnwys rheoli lleoliad y drosedd, casglu tystiolaeth fforensig, proffilio unigolion dan amheuaeth, a thechnegau cyfweld.