Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cwrs cyfrwng Saesneg yw hwn. Gweler y cwrs cyfrwng Cymraeg yma.
Ydych chi'n weithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru sy'n ceisio gwella'ch gwybodaeth a gwella'ch ymarfer?
Mae’r MA Genedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn rhaglen drawsnewidiol sy’n arwain y sector ac sydd wedi’i chynllunio i gefnogi ystod o weithwyr addysg i ymateb i’r newidiadau yn y dirwedd addysgol yng Nghymru, boed nhw’n athrawon ar ddechrau eu gyrfa neu’n uwch arweinwyr. Drwy gydweithio â saith prifysgol yng Nghymru a chyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i chi ymgysylltu ag ymchwil a gwella eich gwybodaeth broffesiynol.
Trwy ymholi ynghylch eich ymarfer proffesiynol, cewch eich arfogi â’r sgiliau sydd eu hangen i arwain, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr, a thrwy hynny wella eich ymarfer proffesiynol. Ymunwch â’r rhaglen MA Genedlaethol mewn Addysg (Cymru) i gael cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa.
Rhaglen dysgu cyfunol, ran amser dros 3 mlynedd yw hon sy’n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb yn lleol, a dysgu ar-lein. Mae'r rhaglen yn cynnwys 200 awr o astudio fesul modiwl 20 credyd - gan gynnwys gweithgareddau annibynnol dan gyfarwyddyd a 22 o oriau cyswllt.
Mae pum llwybr rhaglen gwahanol ar gael ar hyn o bryd:
- MA Addysg (Cymru)
- MA Addysg (Cymru) Arweinyddiaeth
- MA Addysg (Cymru) Anghenion Dysgu Ychwanegol
- MA Addysg (Cymru) Tegwch mewn Addysg
- MA Addysg (Cymru) Cwricwlwm
Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu â .
Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd a noddir gan Lywodraeth Cymru ar gael i ymarferwyr addysgol yng Nghymru. Edrychwch ar y tab 'ariannu' am fanylion pellach.
Noder: Ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ar gyfer y cwrs hwn.
Fideo - MA Addysg (Cymru) Cenedlaethol
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Caiff y cwrs ei addysgu drwy gymysgedd o ddysgu ar-lein a dysgu wyneb yn wyneb. Bydd yr addysgu’n gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau unigol.
Ym mlwyddyn 1 mae 3 modiwl gorfodol i bob myfyriwr. Mae'n bosibl gwrthbwyso rhai neu holl gredydau'r modiwl trwy gydnabod dysgu blaenorol. Os hoffech wneud cais am hynny, atodwch y ffurflen berthnasol wrth ymgeisio am le ar y rhaglen.
Ym mlwyddyn 2 bydd angen i fyfyrwyr fynychu diwrnodau cynhadledd Cenedlaethol a gynhelir ar ddyddiau Sadwrn. Bydd angen i bob myfyriwr blwyddyn 2 gymryd y modiwlau Uwch Sgiliau Ymchwil ac Ymholi (a gynhelir fel sesiwn gyda’r hwyr yn ystod yr wythnos), ochr yn ochr â dau fodiwl arall (a gynhelir ar ddyddiau Sadwrn). Mae'r modiwlau y mae'n rhaid i chi eu dewis yn amrywio fesul llwybr. Gall y rhai sy'n dilyn y rhaglen gyffredinol ddewis o'r ystod lawn o fodiwlau a gynigir.
Ym mlwyddyn 3 byddwch yn gweithio ar gwblhau traethawd ymchwil hir. Dylai traethawd hir y rhai sy'n dilyn llwybr arbenigol ganolbwyntio ar bwnc perthnasol. Cynhelir sawl sesiwn gorfodol a sesiynau galw heibio drwy gydol y flwyddyn academaidd i’ch cefnogi wrth ysgrifennu eich traethawd hir.
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Addysg Cenedlaethol (Cymru) (Cyfrwng Saesneg) MA.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Ariannu
I'r rhai sy'n bodloni gofynion mynediad y rhaglen ond nad ydynt yn gymwys am le a noddir gan Lywodraeth Cymru, y ffioedd dysgu yw £3,250 ar hyn o bryd am bob blwyddyn o astudio. Gall fod yn bosibl defnyddio cymwysterau Lefel 7 (e.e. Tystysgrif Addysg i Raddedigion) fel dysgu blaenorol am hyd at 60 credyd o'r radd meistr hon, gan olygu fod modd cwblhau’r cwrs yn gyflymach.
Dylai ymgeiswyr sy'n ariannu eu hastudiaethau trwy Cyllid Myfyrwyr Cymru fod yn ymwybodol na fyddant efallai’n gymwys i wneud cais i wrthbwyso credydau yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen.
Rhaglen ran-amser yn unig yw hon ac nid yw ar gael i ddysgwyr rhyngwladol. Sylwch fod myfyrwyr nad ydynt yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn gallu cael mynediad at y rhaglen Meistr ond ni fyddant yn gallu cael mynediad at y cyllid arbennig a nodir yma.
Mae'r Rhaglenni Meistr Cenedlaethol mewn Addysg ar gael i bob ymarferydd, fodd bynnag gall rhai myfyrwyr fod yn gymwys am gefnogaeth ariannol.
I fod yn gymwys am gyllid mae’n rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol:
- Bod yn ymarferydd ar ddechrau eich gyrfa h.y., yn unigolyn ym mlwyddyn 3-6 o ymarfer fel athro ar ddechrau’r rhaglen, neu yn
- Aelod o staff mewn ysgol sy’n bartner mewn Addysg Gychwynnol Athrawon;
- Cynorthwywyr Addysgu sy'n bodloni gofynion mynediad academaidd y rhaglen;
- Staff partneriaid gwella ysgolion/consortia rhanbarthol/staff Estyn/staff Awdurdod Lleol/Haen ganol;
- Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (gan gynnwys Addysg Bellach);
- Ymgeisydd sydd bron yn bodloni maen prawf o fod yn ymarfer ers 3-6 blynedd, ond bydd hynny yn ôl disgresiwn y brifysgol a dim ond os oes amgylchiadau eithriadol.
- Bodloni gofynion mynediad academaidd y Sefydliad Addysg Uwch. Nifer cyfyngedig o leoedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael
- Gweithio mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru (neu yn achos Llwybr Anghenion Dysgu Ychwanegol gallai hyn gynnwys sefydliad Addysg Bellach yng Nghymru).
- Wedi derbyn addysg i safon gradd neu gymhwyster cyfwerth.
- Wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (mae'n rhaid bod wedi cofrestru trwy gydol y rhaglen).
- Yn cael eich cyflogi ar gontract sydd o leiaf 0.4 Cyfwerth Amser Llawn. Gall hyn gynnwys athrawon llanw sydd ar gontractau tymor hir naill ai gydag Awdurdod Lleol, ysgol neu asiantaeth.
- Cael eich derbyn ar y cwrs MA penodol hwn mewn Addysg ac yna ymrestru arno.
Yn ogystal:
- Dylai fod gan ymgeiswyr, lle bo modd, gefnogaeth eu Prifathro neu Brifathrawes (neu gyfwerth, megis Pennaeth, Rheolwr-gyfarwyddwr, Prif Swyddog Gweithredol neu Bennaeth Gwasanaeth).
- Pan fo rhywun eisoes wedi cyflawni gradd Meistr pwnc-benodol, efallai y byddant yn dal yn gymwys i wneud cais am y cyllid tuag at y rhaglen hon
- Nid yw unrhyw gymwysterau Meistr mewn Addysg eraill a gynigir gan y Sefydliadau Addysg Uwch hyn yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Rhaid i bob darpar ymgeisydd am gefnogaeth gydnabod a chytuno i'r amodau ariannu canlynol:
- Wrth dderbyn y cynnig hwn o grant mae’n ofynnol i athrawon barhau i weithio yng Nghymru, naill ai o fewn y system addysg a gynhelir neu’r sector addysg bellach am o leiaf 2 flynedd ar ôl cwblhau’r rhaglen.
- Ni all ymgeiswyr sy'n derbyn y cyllid hwn wneud cais am gefnogaeth cyllid ôl-raddedig pellach trwy'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, ac eithrio cefnogaeth Lwfans i Fyfyrwyr Anabl lle bo'n berthnasol.
Y broses ar gyfer cael cyllid
Cytunir ar y grant rhwng Llywodraeth Cymru a'r Prifysgolion sy'n rhan o'r cynllun. Ni fydd unigolion yn gwneud cais am gefnogaeth i Lywodraeth Cymru na'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Cwestiynau Cyffredin am Gyllid.
Gweler y ddogfen Cymhwysedd Ariannu, Proses Dyrannu a Thelerau ac Amodau.
Gofynion Mynediad
Mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar Statws Athro Cymwysedig a chael eu cyflogi ar hyn o bryd yn y sector addysg gorfodol yn y DG. Gall ymgeiswyr sydd eisoes â chymwysterau lefel 7 cyfredol (e.e. TAR) gael caniatad i ddefnyddio hyd at 60 credyd o'u dysgu blaenorol tuag at radd Meistr a chwblhau'r radd Meistr dros gyfnod byrrach. Os ydych am gael rhagor o wybodaeth, yna os gwelwch yn dda cysylltwch gyda Kaydee Owen
Os ydych yn dymuno gwneud cais ond nad oes gennych TAR gyda 60 o gredydau lefel meistr neu gredydau lefel Meistr eraill y gellir eu trosglwyddo i'r cwrs hwn, efallai y gallwch wneud cais am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol gan ddefnyddio'r ffurflen RPL.
Ffurflen Gais Atodol: Sicrhewch eich bod yn llenwi pob rhan berthnasol o'r Ffurflen Gais Atodol a bod eich ffurflen wedi'i chwblhau yn cael ei chyflwyno gyda'ch cais (bydd y Brifysgol o'ch dewis yn darparu arweiniad ar sut i wneud hyn). Ni allwn ystyried ceisiadau heb y Ffurflen Gais Atodol.
Cwestiynau Cyffredin am Dderbyniadau.
Gweler ein Polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol.