Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r galw am therapïau seicolegol yn cynyddu ac mae Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) yn ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau iechyd meddwl, ond mae prinder therapyddion yng Nghymru sydd wedi cael yr hyfforddiant priodol.
Er mwyn bodloni'r galw hwn, mae Prifysgol Bangor wedi cael ei chomisiynu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) i ddarparu hyfforddiant Tystysgrif Ôl-radd (PG Cert CBT) a Diploma Ôl-radd mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol (PG Dip CBT).
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig dwy raglen ôl-radd ran-amser mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol: rhaglen Dystysgrif dros flwyddyn a rhaglen Ddiploma dwy flynedd. Disgwylir i fyfyrwyr gofrestru am y Dystysgrif yn y lle cyntaf a rhaid iddynt basio'r 3 modiwl i symud ymlaen i'r Diploma. Nod ein rhaglen yw bodloni'r safonau addysg o ansawdd uchel a osodwyd gan Gymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP). Mae'r maes llafur yn cyd-fynd â Safonau Hyfforddi Gofynnol Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain, y Cwricwlwm Craidd a fframwaith cymhwysedd Roth a Pilling ar gyfer Therapi Ymddygiad Gwybyddol gydag anhwylderau gorbryder ac iselder. Nod y rhaglen yw darparu hyfforddiant eang gan sicrhau, ar ôl cymhwyso, eich bod yn barod i weithio yn yr amrywiaeth o wasanaethau iechyd meddwl a gynigir ledled Cymru.
Rhaglenni rhan-amser un diwrnod yr wythnos yw’r Dystysgrif Ôl-radd a'r Diploma Ôl-radd, ac mae ganddynt yr un cynnwys ym mlwyddyn 1. Cyflwynir yr addysgu academaidd yn bennaf ar 1 diwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn academaidd. Byddwch yn gwneud gwaith clinigol yn eich gweithle. Byddwch yn cael eich cefnogi yn eich gweithle gan eich goruchwyliwr clinigol, a bydd tiwtor personol yn cael eich pennu i chi o raglen y Brifysgol a fydd yn eich cefnogi gyda'ch gwaith academaidd ac yn cysylltu â'ch goruchwyliwr clinigol ynghylch eich cynnydd.
- Yn cyd-fynd â Safonau Hyfforddi Gofynnol Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain ar gyfer achredu ymarferwyr
- Yn datblygu uwch sgiliau Therapi Ymddygiad Gwybyddol ar gyfer ymgyflwyniadau iechyd meddwl cymhleth a chyd-glefydedd
- Yn canolbwyntio ar ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer iselder a gorbryder
- Mae strwythur rhan amser yn cefnogi gweithwyr proffesiynol
- Wedi'i addysgu gan glinigwyr profiadol ac arbenigwyr academaidd mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol
- Canlyniadau cryf o ran dod o hyd i gyflogaeth yn y GIG, ymarfer preifat a lleoliadau academaidd
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Rydym wedi cynllunio'r cwrs mewn ffordd a fydd yn helpu hyfforddeion i feithrin eu sgiliau Therapi Ymddygiad Gwybyddol yn systematig. Ym Mlwyddyn Un, rydym yn canolbwyntio ar eu helpu i ddatblygu cymhwysedd clinigol a dealltwriaeth o sut i weithio gyda phroblemau iechyd meddwl cyffredin. Yn gyntaf, byddant yn dysgu'r cymwyseddau generig a’r cymwyseddau craidd o ran sut i strwythuro sesiynau clinigol a sut i gael gwybodaeth berthnasol gan eu cleientiaid yn ystod yr asesiad. Bydd hyn yn cael ei hysbysu gan fframwaith cymhwysedd Roth a Pilling a'r mesur sgiliau a ddefnyddir yn eang, y Raddfa Therapi Gwybyddol-Ddiwygiedig (CTS-R).
Ym Mlwyddyn Dau, bydd ymgeiswyr cymwys yn cofrestru ar y Diploma Ôl-radd, lle byddwn yn mynd ati i atgyfnerthu eu gwybodaeth a'u sgiliau wrth drin problemau iechyd meddwl cyffredin, gan ystyried sut rydym yn addasu'r modelau a'r dulliau craidd hyn wrth weithio gyda phoblogaethau mwy arbenigol. Mae symud ymlaen i Flwyddyn Dau yn dibynnu ar basio pob elfen o Flwyddyn Un a'r cyllid sydd ar gael.
Bydd y modiwlau hyn yn helpu i ddatblygu ‘meta-gymwyseddau’ lle bydd hyfforddeion yn cael gwell dealltwriaeth o'r prosesau a rennir ar draws ymgyflwyniadau clinigol (ffactorau trawsddiagnostig). Bydd hyfforddeion hefyd yn dysgu uwch sgiliau i allu gweithio gyda blociau penodol mewn triniaeth neu pan fo cyd-glefydedd neu gronigedd sylweddol.
Sut y byddwch yn astudio?
- Darlithoedd
- Seminarau
- Gwaith grŵp
- Hunan-astudio
- Mentora
- Un i un
- Gweithdai ar-lein
Sut y byddwch yn cael eich asesu?
- Traethawd
- Cyflwyniad llafar
- Astudiaethau achos ysgrifenedig.
- Cyflwyno sesiwn therapi wedi'i recordio ar fideo
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig a geir yma a gall newid.
Lleoliadau
Bydd myfyrwyr yn weithwyr y GIG a phennir amser o fewn eu horiau gwaith i weld cleientiaid ar gyfer Therapi Ymddygiad Gwybyddol yn eu gweithle.
Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau yn y cnawd ym Mhrifysgol Bangor tua mis Mehefin bob blwyddyn a byddant yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau a thasg chwarae rôl.
Ariannu
Mae nifer cyfyngedig o leoedd a ariennir bob blwyddyn ar gyfer y Dystysgrif Ôl-radd a'r Diploma Ôl-radd. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio gyda'r GIG ac yn gweithio naill ai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr neu Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Bydd ffioedd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu talu drwy Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Gofynion Mynediad
Rhaid i bob ymgeisydd fod â’r canlynol:
- Tystiolaeth o allu academaidd i gwblhau'r cymhwyster hwn (2ii neu uwch mewn pwnc cysylltiedig NEU gwblhau tasg sgrinio academaidd yn foddhaol fel rhan o'r broses gyfweld)
- Hyfforddiant proffesiynol craidd perthnasol megis nyrsio iechyd meddwl, gwaith cymdeithasol, therapi galwedigaethol, therapi iaith a lleferydd NEU
- Portffolio KSA yn dangos eu bod yn bodloni'r gofyniad o ran gwybodaeth, sgiliau ac agweddau fel y'i nodir gan Gymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain.
- Mynediad at leoliad gwaith am o leiaf un diwrnod yr wythnos lle gallant ymarfer Therapi Ymddygiad Gwybyddol unigol gyda chleientiaid sy'n profi anawsterau iechyd meddwl cyffredin
- Mynediad at ymarferydd achrededig neu ardystiedig cyfredol sy’n aelod o Gymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain a all gynnig goruchwyliaeth unigol neu grŵp yn ogystal â'r oruchwyliaeth grŵp a gynigir fel rhan o'r cymhwyster.
- Mynediad at leoliad gwaith a fydd yn caniatáu gwneud recordiad sain/fideo o waith cleientiaid i’w asesu mewn lleoliad academaidd
- I ymgeiswyr sydd â Saesneg fel ail iaith - IELTS 7 a thystiolaeth glir o sgiliau cyfathrebu trwy gyfrwng y Saesneg.
- Mae hwn yn ofyniad proffesiynol hanfodol, gan y bydd y myfyrwyr yn cwblhau lleoliadau lle byddant yn cynnig therapi siarad i unigolion sy’n agored i niwed.
- Addasrwydd personol, a chaiff hynny ei asesu drwy gyfweliad a geirdaon gan gyflogwyr
- Rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod wedi pasio gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn cofrestru ar y cwrs hwn.
- Bod yn aelod o Gymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain ar ddechrau'r rhaglen.
Bydd ymgeiswyr sydd wedi cwblhau PHP4301 a PHP4400 yn ystod y cyfnod 2015-2025 yn gallu achredu’r dysgu blaenorol hwn tuag at y Dystysgrif.
I ddilyn hyfforddiant mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol bydd angen i chi fod mewn 'proffesiwn craidd' fel y'i diffinnir gan Gymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain. Efallai y bydd ymgeiswyr nad ydynt mewn proffesiwn craidd yn gymwys trwy lwybr Portffolio KSA. Ewch i wefan Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain am ragor o fanylion.
Gyrfaoedd
Bydd cwblhau'r Dystysgrif Ôl-radd yn llwyddiannus yn rhoi sgiliau craidd i raddedigion wrth gymhwyso fformwleiddiadau ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gleientiaid sy'n profi iselder neu anhwylder gorbryder. Mae cynnwys y cwrs yn rhoi rhywfaint o'r dystiolaeth i raddedigion y byddai arnynt ei hangen pe byddent yn dymuno gwneud cais am achrediad ymarferydd gyda Chymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain.
Bydd cwblhau'r Diploma Ôl-radd yn llwyddiannus yn rhoi uwch sgiliau mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol i raddedigion, gan eu harfogi i allu llunio a darparu ymyriadau lle mae gan gleientiaid anawsterau iechyd meddwl cymhleth neu gyd-glefydedd. Mae cynnwys y cwrs yn cyd-fynd â Safonau Hyfforddi Gofynnol a Chwricwlwm Craidd Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain, felly bydd graddedigion mewn sefyllfa gref i wneud cais am achrediad ymarferydd ar ôl cwblhau.
- Gweithio fel Therapydd Ymddygiad Gwybyddol cymwysedig
- Cael eich cyflogi mewn ysbytai, timau iechyd meddwl cymunedol a lleoliadau ymarfer preifat
- Swyddi ym meysydd gofal cymdeithasol, addysg a sefydliadau'r trydydd sector megis elusennau a gwasanaethau lles cymunedol
- Datblygiad gyrfa ar gyfer swyddi uwch therapydd, goruchwyliwr clinigol neu arweinydd gwasanaeth
- Llwybr ar gyfer achrediad gyda Chymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain
- Mae cyn-fyfyrwyr wedi cael swyddi gydag Ymddiriedolaethau'r GIG, clinigau iechyd meddwl arbenigol, carchardai a rhaglenni cymorth i weithwyr (EAPs)
Gwneud Cais
Mae'r cwrs yn dechrau ym mis Hydref bob blwyddyn, fodd bynnag, croesewir ceisiadau ar unrhyw adeg drwy gydol y flwyddyn. Ni dderbynnir ceisiadau dim hwyrach na diwedd mis Ebrill ar gyfer y mewnlif sy'n dechrau ym mis Hydref yr un flwyddyn.
Fel arfer, cynhelir y broses o lunio rhestr fer ym mis Mai gyda chyfweliadau’n cael eu cynnal ar y campws ar wahanol adegau ym mis Mehefin.
I gofrestru eich diddordeb a dechrau’r broses ymgeisio, anfonwch e-bost at nwcppacademic@bangor.ac.uk