º£½ÇÌìÑÄ

Fy ngwlad:
Myfyrwyr yn y Cwad, Prif Adeilad y Brifysgol

Ehangu Mynediad

Gofalwyr Ifanc a Phobl sydd â phrofiad o ofal

Codi dyheadau, cyrraedd llwyddiant.

Ein Hymrwymiad i Gefnogi Gofalwyr

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr sydd hefyd yn ofalwyr ifanc a'r rhai sydd â phrofiad o ofal i gwrdd â'u dyheadau mewn addysg ac yn y gweithle.

 Rydym yn deall efallai bod gennych bryderon sydd yn ymwneud gyda materion fel cyllid, cydbwyso astudio gyda cyfrifoldebau gofalu a gadael y rhai sydd yn dibynnu arnoch am ofal.

Ystyr y term 'Gofalwr'

Ein diffiniad ni o Ofalwr yw rhywun sy’n gofalu am aelod o’r teulu, partner neu ffrind ag anabledd corfforol neu synhwyraidd, anabledd dysgu, cyflwr meddygol, anawsterau iechyd meddwl neu rywun sy’n gaeth i gyffuriau, alcohol neu hapchwarae/gamblo.

Ystyr 'Pobl sydd â phrofiad o ofal'?

Mae rhywun sydd gyda phrofiad o ofal yn golygu y byddwch wedi bod yng ngofal eich awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos ar unrhyw adeg ers yn 14 oed.

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Ysgol Breswyl i Ofalwyr Ifanc

Os ydych chi'n ofalwr ifanc sydd â diddordeb mewn mynychu ein ysgol breswyl eleni, cysylltwch â'ch darparwr gofal lleol i archebu eich lle.

Gofalwr yn gafael llaw y claf

Mae Bangor yn ymwybodol o ofal

Mae profiad o ofalu yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ofalwyr. Er hyn, gall hefyd effeithio ar les corfforol ac emosiynol Gofalwyr. Mae Prifysgol Bangor yn ymwybodol o hyn ac wedi sefydlu ei Pholisi Gofalwyr i helpu cefnogi staff a myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofal.

Cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc a Pobl â Phrofiad o Ofal

Rydym yn deall gall bywyd academaidd fod yn heriol. Pe baech yn teimlo eich bod am ddatgelu eich amgylchiadau ai peidio, rydym yma i'ch cefnogi mewn sawl ffordd.

  • Staff wedi ei benodi yn arbennig ar gyfer gofalwyr.
  • Cefnogaeth academaidd gan gynnwys hyblygrwydd gyda dyddiadau cau, gofynion mynediad a chefnogaeth gyda llwyth gwaith.
  • Bwrsariaeth gofalwyr o £1,000
  • Cefnogaeth Iechyd a Lles.
  • Mae'r system 'Portal Bangor' yn roi y cyfle i chi ddatgan eich statws gofalwr fel bod  eich tiwtor personol yn ymwybodol o'r sefyllfa.
  • Gwasanaeth 'galw heibio'- rydym yn cynnig gwasanaeth anffurfiol trwy gydol y broses o wneud cais i'r Brifysgol. 
  • Cerdyn adnabod i ofalwyr.

²Ñ²â´Ú²â°ù·É²â°ù&²Ô²ú²õ±è;â&²Ô²ú²õ±è;±Ê³ó°ù´Ç´Ú¾±²¹»å&²Ô²ú²õ±è;³Ò´Ç´Ú²¹±ô&²Ô²ú²õ±è;

Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel i ofalu am ein myfyrwyr a rhoi cefnogaeth iddynt. Rydym yn cynnig gwasanaeth lles cynhwysfawr i fyfyrwyr, felly fel myfyriwr sydd wedi gadael gofal i ddod i Addysg Uwch, neu fel rhywun sy’n rhoi cyngor i fyfyriwr Ã¢ phrofiad gofal, gallwch fod yn sicr y cewch y gefnogaeth a’r wybodaeth angenrheidiol ym Mangor. Mae’r gefnogaeth hon i’w chael o’r cam cyntaf, tra byddwch yn dal i geisio penderfynu lle neu beth i’w astudio, ac mae’n parhau ar gael i chi drwy’r broses gwneud cais am brifysgol ac ar ôl i chi ddechrau ar eich cwrs yma.

Cefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi gadael gofal

Ym Mhrifysgol Bangor, gallwn ddarparu’r canlynol:

  • Arweiniad ar rag-fynediad gan ein Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd, cymorth i lenwi eich ffurflen Cais am Gyllid Myfyrwyr a chymorth a chefnogaeth yn ystod proses gwneud cais a derbyniadau’r brifysgol. 
  • °ä²â³¾´Ç°ù³Ù³ó&²Ô²ú²õ±è;²µ²¹²Ô&²Ô²ú²õ±è;²¹°ù·É±ð¾±²Ô·É²â°ù&²Ô²ú²õ±è;³¦²â´Ú²Ô´Ç»å&²Ô²ú²õ±è;¾±&²Ô²ú²õ±è;²ú´Ç²ú&²Ô²ú²õ±è;³¾²â´Ú²â°ù¾±·É°ù&²Ô²ú²õ±è;¾±â€™w&²Ô²ú²õ±è;³ó±ð±ô±è³Ü&²Ô²ú²õ±è;¾±&²Ô²ú²õ±è;²â³¾²µ²¹°ù³Ù°ù±ð´Ú³Ü&²Ô²ú²õ±è;²â²Ô&²Ô²ú²õ±è;²â²õ³Ù´Ç»å&²Ô²ú²õ±è;²â°ù&²Ô²ú²õ±è;°Â²â³Ù³ó²Ô´Ç²õ&²Ô²ú²õ±è;³Ò°ù´Ç±ð²õ´Ç&²Ô²ú²õ±è;²¹³¦&²Ô²ú²õ±è;·É²â³Ù³ó²Ô´Ç²õ²¹³Ü&²Ô²ú²õ±è;³¦²â²Ô³Ù²¹´Ú&²Ô²ú²õ±è;²â&²Ô²ú²õ±è;³Ù²â³¾´Ç°ù.&²Ô²ú²õ±è;
  • Cymorth ariannol wedi ei glustnodi ar gyfer rhai sydd wedi Ã¢ phrofiad gofal, drwy gyfrwng bwrsariaethau a Chronfa Caledi y Brifysgol.Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael Â£1,000y flwyddyn gan Brifysgol Bangor yn ychwanegol at unrhyw  fwrsariaethau neu grantiau eraill y gellwch fod yn gymwys i’w derbyn. 
  • Canolfan Gwasanaethau Myfyrwyr integredig, sy’n cynnig mynediad rhwydd at wasanaethau cymorth ariannol, llety, anableddau,iechyd meddwl a chynghori  myfyrwyr. 
  • Cyfarfodydd rheolaidd rhwng y cyswllt penodol a’r myfyrwyr sydd Ã¢ phrofiad gofal i ganfod eu hanghenion cymorth, gyda chyswllt rhwng adrannau’r Brifysgol ac asiantaethau allanol fel bo’n briodol (a gyda chaniatâd pendant y myfyriwr). 
  • Sicrwydd o lety ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf ar gwrs israddedig a chynllunio a threfnu llety i chi ar gyfer amser tymor ac amser gwyliau. 
  • Cyfrinachedd llwyr i fyfyrwyr sydd o gefndir gofal o safbwynt darparu gwasanaeth a threfniadau penodol.

Ysgol Breswyl i Ofalwyr Ifainc

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Bangor yn croesawu gofalwyr ifanc i Ddigwyddiad Preswyl, sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc 16-25 oed i gael blas ar fywyd prifysgol a'r gefnogaeth a gynigir iddynt yma ym Mangor. Yn ystod y digwyddiad, mae llawer o ysgolion academaidd yn cyflwyno sesiynau blasu pynciol. Caiff y bobl ifanc gyfle i edrych o gwmpas y brifysgol, Pontio, Undeb y Myfyrwyr a manteisio ar y cyfleusterau hamdden yng Nghanolfan Brailsford cyn treulio noson yn llety'r brifysgol.

 

Mae wedi cyflwyno rhan newydd yn y cais i alluogi chi i rannu mwy o wybodaeth am eich amgylchiadau gyda’r brifysgol – gan gynnwys a oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu. Mae'r wybodaeth yma yn golygu y gallwn cysylltu gyda chi  Ã¢ chymorth ar gyfer eich anghenion yn gyflym a sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Rhoddir cymorth ac adnoddau ychwanegol i ofalwyr sy'n mynychu'r brifysgol gan ddarparwyr gofal lleol a'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Mae'r rhain yn cynnwys cymorth ymarferol fel darparu dillad gwely, offer a thywelion.


Bydd y cerdyn adnabod  yn rhoi ffordd gyflym a hawdd i hysbysu darlithwyr, staff, a gwasanaethau cymunedol megis canolfannau hamdden a thrafnidiaeth leol, eu bod yn gofalu am rywun.

Rydym ni yn gweithio mewn partneriaeth gyda Ymestyn yn Ehangach ar amrywiaeth o brosiectau.

Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru yn broject a gyllidir gan HEFCW. Ein cenhadaeth yw creu cysylltiad ag ysgolion cynradd ac uwchradd, oedolion 21 oed a hÅ·n heb unrhyw gymwysterau addysg uwch, o ddau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. 

Reaching Wider mentoring advert
Reaching Wider logo

 

 

 

 

Mae bod yn ofalwr llawn amser ac yn fyfyriwr llawn amser yn anodd ond mae staff y Brifysgol yn hynod gefnogol ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w wneud ychydig yn haws.

Myfyriwr Prifysgol Bangor

Myfyrwyr HÅ·n

Rydym yn falch iawn o groesawu myfyrwyr o bob cefndir ym Mangor.  Os rydych chi dros 21 oed, rydych chi'n cael eich ystyried yn fyfyriwr aeddfed. Dyma rhagor o wybodaeth a chyngor i helpu ar eich llwybr newydd.

Cefnogaeth i Fyfyrwyr HÅ·n

Mae ein cefnogaeth i fyfyrwyr hÅ·n yn cynnwys:

Gwylio - Ehangu Mynediad - Ffion

Ffion
Fideo: Ehangu Mynediad - Ffion

Do nes i benderfynu mynd am y cwrs, roeddwn i'n teimlo mod i'n barod i stepio ymlaen efo fy mywyd. O'n i'n gweithio fel gofalwr cefnogi yn Antur Waunfawr a, ia, o'n i jest yn teimlo bo fi'n barod i gael dysgu mwy. Ia, ac wedyn jest es i am y cwrs. Ffion dwi ac rydw i'n astudio Nyrsio Anableddau Dysgu ym Mhrifysgol Bangor.

Ers i fi ddechrau yna, oeddwn i'n teimlo mai dyna beth oeddwn i fod I wneud, so mae'r holl beth wedi dod at ei gilydd yn reit dda. A'r bobl dwi wedi cefnogi di, yw'r rheswm dwi'n isio neud o, i fedru helpu pobl fatha nhw i gael byw bywydau hapus.

Un pethau o'n i yn poeni amdano oedd os oeddwn i yn medru gweithio a gwneud prifysgol hefyd. Dwi'n ffeindio dwi'n medru ei wneud yn iawn. Mae gen i falans reit dda. Dwi'n gweithio, dwi'n mynd i'r brifysgol a dwi'n gneud pethau yn fy amser fy hun.

A pan mae'n dod i leoliadau hefyd, ia, dwi'n ffeindio mod i yn medru rhoi balans i bethau reit dda. Ond mae yna opsiynau i gael cefnogaeth efo pres hefyd. Dwi'n dysgu cymaint gan y staff dwi'n gweithio gyda,  y nyrsys a hefyd y cleifion - dwi'n dysgu cymaint gan nhw.

A mynd ymlaen yn y cwrs, dwi jest yn edrych mlaen i gael dysgu mwy am y sgiliau clinigol a chael mwy o leoliadau, achos mae'n rhoi syniad reit dda i chi o lle rydych chi isio gweithio a pha fath o faes nyrsio rydych chi'n mynd iddo. Ti'n dysgu cymaint mor sydyn. Dwi'n falch mod i wedi neud o. Dwi'n fwy hyderus yn mi fy hun. Dwi jest yn mwynhau. Dwi'n dysgu lot pob dydd a dwi'n medru ei wneud o yn fy ffordd i hefyd. Ia, dwi'n mwynhau.

Ia, dwi'n reit falch ohonof fy hunan a dwi'n edrych mlaen at y dyfodol rwan. Ia, dwi'n hapus mod i'n ei wneud o.

Image of illustration showing two girls talking through devices

Siarad â ni Archebu slot

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, archebwch sgwrs gyda ein Swyddog Ehangu Mynediad cyfeillgar a phrofiadol.