Astudiaeth: Effaith defnyddio technoleg gynorthwyol ymysg pobl sy'n byw gyda sglerosis gwasgaredig (MS)
Ymchwilydd: Luke Squires, Val Morrison
Postiwyd: 19.06.24

Beth oedd amcanion y project?
Sefydlu natur a lefel y defnydd o Dechnoleg Gynorthwyol ymhlith y rhai yr effeithir arnynt gan Sglerosis Gwasgaredig, neu faint sy’n roi’r gorau i ddefnyddio Technoleg Gynorthwyol
Nodi profiad corfforol a seicolegol defnyddio Technoleg Gynorthwyol a'r rôl y mae derbyn salwch yn ei chwarae, ynghyd â disgwyliadau o Dechnoleg Gynorthwyol, cefnogaeth gymdeithasol, hwyliau personol a nodweddion personol eraill.
Beth oedd deilliannau'r project?
Cymerodd 70 o oedolion â diagnosis o MS ran yn ein harolwg hydredol 3 thon. Y canfyddiad allweddol oedd bod nifer y dyfeisiau Technoleg Gynorthwyol a ddefnyddiwyd wedi lleihau effaith gorfforol a seicolegol MS a bod optimistiaeth bersonol wedi cryfhau'r berthynas hon. Nodwyd goblygiadau ar gyfer defnyddio Technoleg Gynorthwyol â chefnogaeth a rheoli disgwyliadau cleifion er mwyn cynnal optimistiaeth. Adroddwyd ar yr astudiaeth ar wefan MS Society, ac mae'n cael ei pharatoi i'w chyhoeddi yn Disability & Rehabilitation: Assistive Technology.
Sut wnaeth aelodau'r Panel Ymgysylltu ag Ymchwil gyfrannu at y project?
Cwblhawyd yr astudiaeth hon cyn lansio'r Panel Ymgysylltu ag Ymchwil, fodd bynnag, cyfrannodd pobl ag MS at gynllunio’r astudiaeth. Gobeithiwn y bydd y Panel Ymgysylltu ag Ymchwil yn galluogi mwy o gyfranogiad y cyhoedd yn ein hastudiaethau!