Reis Gludiog a Gwên: Dathlu’r Ŵyl Cychod Draig!
Roedd hwyl a chwilfrydedd, chwerthin ac arogleuon blasus ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar, wrth i Sefydliad Confucius gynnal gweithdy gwneud Zongzi i ddathlu’r Ŵyl Cychod Draig.
Daeth y digwyddiad â chymysgedd bywiog o fyfyrwyr Prifysgol Bangor a theuluoedd lleol ynghyd am brynhawn o hwyl ymarferol, straeon diwylliannol a reis gludiog! Cafodd y cyfranogwyr ddysgu am darddiad ac arferion yr Ŵyl Cychod Draig cyn rhoi cynnig ar y grefft fanwl, ofalus a thawel (ac ychydig yn anodd!) o wneud zongzi — parseli reis traddodiadol wedi eu lapio mewn dail bambŵ sy'n nodi'r achlysur.
I lawer, dyma’r tro cyntaf iddynt wneud zongzi, ond ni wnaeth hynny leihau eu brwdfrydedd. Gyda chanolbwyntio a chwerthin, plygodd, llenwodd a chlymodd plant ac oedolion fel ei gilydd eu zongzi, yn barod i fynd â hwy adref i’w coginio. Roedd y gweithdy yn cynnig mwy na blas ar draddodiad Tsieina — sbardunodd y gweithdy gyfnewid diwylliannol, daeth â straeon yn fyw a chreodd deimlad cynnes o gysylltiad ar draws cenedlaethau a chefndiroedd.
Rydym mor falch o lwyddiant y digwyddiad a hoffem ddiolch i bawb a ymunodd â ni. Mae bob amser yn bleser gweld pobl yn cysylltu trwy fwyd, traddodiad a chwilfrydedd cyffredin.
Cadwch lygad am fwy o weithdai a digwyddiadau diwylliannol — mae croeso i bawb!