Yn y cyngerdd mawreddog hwn, bydd Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor yn ymuno â Chantorion Menai, Undeb Gorawl Cymry Lerpwl a Chôr Cadeirlan Bangor, y cyfan dan arweiniad Gwyn L. Williams, yn Neuadd Pritchard-Jones, Bangor.
Breuddwyd Gerontius yw un o gyfansoddiadau mwyaf dwys a grymus Edward Elgar. Mae’r gwaith wedi’i seilio ar farddoniaeth y Cardinal John Henry Newman, yn dilyn taith dyn ar ei wely angau gerbron Duw. Cyfansoddwyd y gwaith yn 1900, ac ers hynny, perfformiwyd campwaith Elgar mewn amryw o wledydd ar draws y byd.
Cyn y cyngerdd, bydd Syr Terry Waite, yr awdur adnabyddus a'r ymgyrchydd hawliau dynol yn sgwrsio â Chadeirydd y Cyngor, Marian Wyn Jones, am rym cerddoriaeth yn ei fywyd.
Cafodd Syr Terry Waite ei gipio yn wystl yn Beirut yn 1987 wrth geisio sicrhau rhyddhau gwystlon yn Lebanon, a threuliodd bron i bum mlynedd mewn caethiwed. Ar ôl ei ryddhau, daeth yn eiriolwr dros heddwch a chyd-sefydlodd Hostage International i gefnogi dioddefwyr gwystlon a'u teuluoedd. Mae Breuddwyd Gerontiusyn golygu llawer i Syr Terry Waite, gan mai dyma oedd y darn cerddoriaeth cyntaf a glywodd wedi pum mlynedd yn wystl.
Meddai Cadeirydd y Cyngor, Marian Wyn Jones:
“Dyma gyfle gwych i glywed perfformiad o waith mawreddog Elgar gan feistri yn eu crefft, yn cloi'r flwyddyn addysgol yma ym Mhrifysgol Bangor. Mi fydd hi'n fraint o'r mwyaf cael sgwrsio gyda Syr Terry Waite am arwyddocâd arbennig y gwaith hwn a'r effaith a gafodd arno yn ystod cyfnod anodd a thywyll yn ei hanes. Mae cerddoriaeth Elgar wedi bod yn ffynhonnell o gysur ac ysbrydoliaeth iddo drwy gydol ei fywyd, ag os oes gennych docyn i'r cyngerdd, byddwn yn sicr yn eich annog i fanteisio ar y cyfle unigryw hwn i ymuno gyda Syr Terry a minnau. Mae'n argoeli i fod yn noson i'w chofio.'
Tocynnau:&²Ô²ú²õ±è;£25&²Ô²ú²õ±è;archebwch ar-lein yma
Mae tocyn y cyngerdd yn cynnwys mynediad i'r sgwrs gyda Syr Terry Waite yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad Prifysgol Bangor am 5.45-6.30yh.