Wedi'i drawsnewid yn ardal heddychlon a hygyrch, mae Parc y Coleg bellach yn fan croesawgar i bawb ei fwynhau.
Mae'r brif fynedfa i'r Parc wedi agor man gwyrdd croesawgar i gysylltu Dinas Bangor â Bangor Uchaf. Mae’r project wedi'i ariannu drwy raglen 'Trawsnewid Trefi' Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd.

Mae'r gwelliannau allweddol i seilwaith y parc yn cynnwys:
- Creu llwybr hygyrch newydd ar draws y parc sy'n cysylltu â Pontio
- Creu mynedfa fwy diogel newydd oddi ar Lôn Deiniol sy'n cysylltu â chanol y ddinas, tra bod y giât hanesyddol wreiddiol wedi'i symud yn ofalus i leoliad gwarchodedig yng Ngerddi Treborth
- Creu ardaloedd lawnt y gellir eu defnyddio i annog gweithgareddau newydd, digwyddiadau ar raddfa fach, ymlacio, a dysgu yn yr awyr agored
- Darparu goleuadau newydd i wella diogelwch pan mae hi’n dechrau nosi
- Rheoli a theneuo detholus llystyfiant presennol i agor y golygfeydd a gwella diogelwch ar hyd y llwybrau troed.
Er mwyn annog glaswellt a phlanhigion i dyfu, gellid diogelu rhai ardaloedd gyda ffiniau am gyfnod dros dro.

Dywedodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor:
"Mae'n fraint i ni gael man gwyrdd mor sylweddol yn cysylltu'r Brifysgol â chanol y ddinas. Rhoddwyd y tir hwn i'r Brifysgol yn wreiddiol gan y ddinas dros ganrif yn ôl, ac rydym yn falch o anrhydeddu'r etifeddiaeth honno trwy drawsnewid y parc yn ofod adfywio, croesawgar.
“Wrth i Fangor ddathlu 1500 mlynedd fel dinas, credwn y bydd yr ailddatblygiad hwn yn chwarae rhan ystyrlon yn adfywio canol y ddinas ac yn darparu mwynhad i genedlaethau i ddod.
"Mae'r gwaith a wnaed wedi cynyddu gwelededd, wedi creu golygfeydd gwell, gofod mwy hygyrch a defnyddiol, ac wedi annog twf planhigion a blodau gwyllt.
"Rydym yn gwerthfawrogi amynedd y gymuned yn ystod y gwaith adeiladu, ac yn diolch i'r contractwr lleol, John Kelly Construction Services Ltd. am eu proffesiynoldeb, sylw i fanylion, ac ymrwymiad i ddarparu canlyniad o ansawdd uchel i'r gymuned a'n myfyrwyr ei fwynhau."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
"Rwyf wrth fy modd bod ein cyllid Trawsnewid Trefi wedi cefnogi datblygiad y cyswllt allweddol hwn rhwng Prifysgol Bangor a chanol y ddinas.
“Bydd y gwelliannau i Barc y Coleg nid yn unig yn gwella bioamrywiaeth ac yn creu taith fwy pleserus i ganol dinas Bangor ond bydd hefyd yn cefnogi iechyd a lles trigolion, myfyrwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.”
Dywedodd Medwyn Hughes, Cyngor Gwynedd:
"Rydym yn falch o fod wedi gweithio'n agos gyda Phrifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru i gyflawni'r prosiect hwn. Mae cefnogi'r Brifysgol fel partner allweddol yn nyfodol y ddinas yn hanfodol, ac mae gwella mannau fel y Parc a'r Coleg yn helpu i gryfhau'r cysylltiadau rhwng y Brifysgol, y gymuned, a chanol y ddinas. Mae'r partneriaethau hyn yn hanfodol yn ein hymdrechion parhaus i adfywio'r ddinas."
