º£½ÇÌìÑÄ

Fy ngwlad:
4 oedolyn yn sefyll o gwmpas yn sgwrsio ac yn gwenu.

Panel Ymgysylltu ag Ymchwil

Gwella ymchwil drwy gydweithrediadau rhwng y gymuned ac ymchwilwyr

Croeso i'r Panel Ymgysylltu ag Ymchwil

Croeso i safle Panel Ymgysylltu ag Ymchwil yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon!
Ar y dudalen hon rydym yn gobeithio rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i'ch helpu i benderfynu a hoffech chi ymuno â'r fenter gyffrous newydd hon.
Cofrestrwch yma!

Ein Nodau

Ein nod yw dod â phobl, y cyhoedd ac ymchwilwyr ynghyd i greu a chefnogi academyddion o'r radd flaenaf, o'r dylunio hyd at y cyflwyno.

Mae cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil yn bwysig i ni oherwydd ei fod yn gwella perthnasedd, effaith a hygyrchedd y canfyddiadau. 

Mae'r panel wedi'i greu ar gyfer pobl a hoffai glywed mwy am ein hymchwil, cymryd rhan mewn dylunio a gweithredu ymchwil, neu a hoffai gymryd rhan mewn ymchwil barhaus.

Mae ein hacademyddion yn arwain ymchwil o'r radd flaenaf ar bynciau fel heneiddio, dysgu a datblygiad trwy gydol plentyndod, lleferydd ac iaith, gofalu am eraill, ac adsefydlu ar ôl anaf i'r ymennydd.
 

Ein projectau

Darllenwch am sut mae'r Panel Ymgysylltu ag Ymchwil wedi bod yn rhan o astudiaethau blaenorol ac edrychwch ar yr astudiaethau sy’n chwilio am bobl i gymryd rhan ar hyn o bryd.

Ffyrdd o gymryd rhan mewn ymchwil

Darllenwch am y gwahanol ffyrdd y gallech chi gymryd rhan mewn ymchwil - o ddylunio a gweithredu astudiaethau i gymryd rhan mewn sesiwn untro.

Gall arbenigwyr drwy brofiad gyfrannu eu hamser a'u gwybodaeth arbenigol mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Ceisir eu mewnwelediadau wrth ddatblygu cwestiynau neu ddeunyddiau astudio, wrth ddehongli canfyddiadau neu wrth eu hysgrifennu i'w lledaenu neu eu cyflwyno i wahanol gynulleidfaoedd.

Yn aml, bydd astudiaethau'n cynnal "Grwpiau Llywio" neu "Grwpiau Monitro Projectau" sydd fel rheol yn cyfarfod bob chwarter ond a all hefyd gysylltu i gael mewnbwn ychwanegol y tu allan i gyfarfodydd wedi'u hamserlennu. Dywedir wrthych beth yw'r disgwyliadau penodol ar gyfer pob astudiaeth cyn cymryd rhan. 

 

 

 

Fel rheol, mae project yn sefydlu Grŵp Llywio gydag aelodau sy'n cynrychioli'r timau academaidd a rhanddeiliaid perthnasol, h.y. y rhai sydd â chysylltiad perthnasol â phwnc yr astudiaeth sydd â diddordeb yn y project yn cyflawni ei nodau a'i ganlyniadau.

Er enghraifft, os yw'r pwnc yn ymwneud â grŵp penodol o gleifion, gellir gwahodd clinigwyr perthnasol, aelodau o'r teulu, neu reolwyr cyfleusterau gofal. Yn yr un modd, os yw'r project yn ymchwilio i addysg ysgol, gellir gwahodd rhieni, penaethiaid ysgolion, neu gynrychiolwyr yr Awdurdod Addysg.

Mae'r Grŵp Llywio yn goruchwylio project, gan gynnwys monitro cynnydd ymchwil, cyflawni cerrig milltir, a rheoli cyllidebol. Fel rheol, mae Grwpiau Llywio yn cyfarfod bob chwarter ond gellir cynnwys cyfarfodydd neu dasgau ad hoc eraill. Darperir 'disgrifiad rôl' yn ôl pob astudiaeth yn unigol a chewch gyfle i siarad â'r tîm ymchwil cyn ymuno â Grŵp Llywio.

 

Gallech gymryd rhan fel cyfranogwr mewn astudiaeth ymchwil. Mae'r astudiaethau hyn yn astudiaethau gweithredol sy'n chwilio am bobl a all gyfrannu eu hamser a'u data. 

Mae ein hastudiaethau'n amrywio'n fawr. Dyma rai enghreifftiau:

  • Cwblhau arolwg ar-lein a allai gymryd 20-30 munud o'ch amser, er enghraifft, holiadur am brofiadau gofalu am eraill.
  • Astudiaeth gyda sawl pwynt amser (ar-lein neu wyneb yn wyneb), er enghraifft, astudiaeth sy'n ymchwilio i sut mae plant yn dysgu dros amser. 
  • Tasg gyfrifiadurol (a gwblheir ar-lein neu wyneb yn wyneb), er enghraifft, astudiaeth sy'n ymchwilio i berfformiad y cof o dan wahanol amodau.
  • Ymweliad â labordy ar gyfer profion corfforol neu fonitro ymatebion, er enghraifft, astudiaeth sy'n ymchwilio i newidiadau corfforol yn ystod ymarfer corff. 
  • Grŵp ffocws (ar-lein neu wyneb yn wyneb), er enghraifft, astudiaeth sydd eisiau deall profiadau pobl sy'n byw gyda dementia. 

Mae ein holl ymchwil yn cael ei hadolygu'n drylwyr o ran moeseg a llywodraethu cyn recriwtio cyfranogwyr er mwyn sicrhau casglu a storio data o ansawdd uchel, diogelwch cyfranogwyr a chyfrinachedd.

 

Os ydych chi'n cynrychioli sefydliad neu gorff penodol, efallai y gallai un o'n timau academaidd ddod i siarad am eu cynlluniau astudio neu gyflwyno eu canfyddiadau.

Mae'n bwysig ein bod yn lledaenu gwybodaeth i'n defnyddwyr terfynol posibl neu fuddiolwyr ymchwil.

Er enghraifft, os ydym yn bwriadu cynnal astudiaeth o ymddygiadau ymdopi adeg salwch, efallai yr hoffem siarad â grwpiau cleifion; neu os byddwn yn canfod bod ymyriadau ysgogol sy'n canolbwyntio ar athrawon yn effeithiol wrth leihau ymddygiad aflonyddgar yn yr ystafell ddosbarth, efallai yr hoffem gyflwyno i awdurdodau addysg neu ysgolion.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag arweinwyr y panel: rep@bangor.ac.uk

Mae hon yn fenter newydd, a fydd yn lansio yng ngwanwyn 2025. Hoffem glywed eich barn ar y panel, beth rydych chi'n gobeithio ei ennill ohono, ac a oedd y broses ymuno yn glir ac yn addysgiadol.

 

 

val morrison photo

Prof. Val Morrison

Mae Val yn ymchwilydd sydd â diddordeb mewn ffactorau sy'n rhagfynegi canlyniadau emosiynol, swyddogaethol a chymdeithasol mewn rhai â salwch corfforol cronig neu sy'n darparu gofal anffurfiol yn y cyd-destun hwnnw.
Mae hi'n ymwneud â gwaith cydweithredol gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac mae'n aelod o grwpiau llywio.

Yn barod i ymuno?!